Telerau defnydd

"UKCEH logo"Telerau defnydd y wefan

Caiff y wefan hon ei gweithredu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH). 

Mae UKCEH yn sefydliad ymchwil annibynnol, nid-er-elw, ac mae'n Elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 1185618) ac yn yr Alban (rhif SC049849), ac yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant cofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 11314957). Caiff UKCEH ei chyllido'n strategol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

Defnyddio gwefan y Cyfrif FIT

Caiff gwefan y Cyfrif FIT ei chynnal i chi ei defnyddio ac edrych arni yn bersonol. Drwy gyrchu a defnyddio'r wefan sy'n dangos y telerau defnydd hyn, rydych yn derbyn y telerau defnydd hyn. Maent yn weithredol o'r dyddiad rydych chi'n defnyddio'r wefan hon yn gyntaf wedi i'r telerau ac amodau hyn ddod yn gymwys. Cadwn yr hawl i ddileu cyfrifon defnyddwyr sy'n torri'r telerau ac amodau hyn.

Rydych chi'n cytuno i ddefnyddio'r safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu ar hawliau trydydd parti, neu'n cyfyngu neu'n atal trydydd parti rhag defnyddio a mwynhau'r safle hwn. Mae cyfyngiad neu ataliad o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw un, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu dramgwyddus neu darfu ar lif arferol y ddeialog o fewn y safle hwn.

Os nad ydych yn cytuno, peidiwch â defnyddio'r safle hwn. Peidiwch â defnyddio'r safle hwn os ydych yn ifancach na 13 oed.

Gallwch ofyn i gael diddymu eich cyfrif gyda'r Cyfrif FIT unrhyw adeg drwy e-bostio poms@ceh.ac.uk. Caiff unrhyw gyfrifon FIT rydych wedi'u cyflwyno eu cadw fel rhan o set ddata wyddonol hirdymor a fydd yn parhau i gyfrannu at ein hymchwil a'n dealltwriaeth, ac a gaiff ei storio am gyfnod amhenodol. Mae hyn yn cynnwys manylion y cyfrifon FIT rydych chi wedi'u cyflwyno, y wybodaeth ddadansoddol sy'n gysylltiedig â nhw, a chan gynnwys eich enw fel y cofnodydd a chod a gynhyrchir yn awtomatig i adnabod defnyddwyr unigol gwefan ac ap y Cyfrif FIT. Bydd y data hwn yn parhau i gael ei gadw yn unol â'r telerau defnydd y cytunoch chi iddynt wrth gofrestru ar gyfer Cyfrifon FIT. Caiff eich cyfeiriad e-bost ei dynnu o set ddata'r Cyfrif FIT, ac ni chaiff ei gysylltu mwyach â'ch cofnodion.

Data personol

Mae'r sail i ni brosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu a roddwch chi i'w ddefnyddio, wedi'i chynnwys yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Cynnwys data amhersonol

Pan fyddwch chi'n cyflwyno Cyfrifon FIT gan ddefnyddio cyfrif wedi'u gofrestru gyda'r wefan hon, byddwch chi'n creu cynnwys ac yn ei lwytho i fyny - er enghraifft, canlyniadau Cyfrifon FIT, ffotograffau a thestun cysylltiedig. Drwy gyflwyno'r wybodaeth hon ar y safle, rydych chi'n dweud:

  1. mai chi biau'r cynnwys, neu fod gennych ganiatâd y perchennog i gytuno iddo gael ei ddefnyddio fel hyn
  2. eich bod yn cytuno y gall partneriaid y safle hwn sy'n rheoli prosiectau Cyfrif FIT yn eich gwlad chi ddefnyddio'r cynnwys
  3. eich bod yn cytuno y bydd eich cofnodion ar gael i wirwyr arbenigol sy'n gweithredu ar ran prosiectau Cyfrif FIT yn eich gwlad chi, a gaiff gysylltu â chi mewn perthynas â'r cofnodion hynny, ac a gaiff roi sylwadau ar y cofnodion neu a gaiff gywiro enw rhywogaeth yn y cofnodion

Bydd canlyniadau'r Cyfrifon FIT ar gael ar gyfer ymchwil, drwy bartneriaid y prosiect a thrwy gyhoeddi setiau data agored. 

Cywirdeb gwybodaeth

Rhoddir y wybodaeth yn y wefan hon yn ddiffuant ac er gwybodaeth gyffredinol a diddordeb cyffredinol yn unig. Gellir ei newid heb rybudd. Nid yw UKCEH yn gyfrifol am unrhyw wallau ac nid yw'n gwneud unrhyw gynrychiolaeth ac nid yw'n rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch ei chywirdeb.

Ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth yn y wefan hon ac nid yw'n ffurfio unrhyw fath o gyngor neu argymhelliad. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cadarnhau nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw wybodaeth o'r fath. Mae unrhyw drefniadau a wneir rhyngoch chi ac unrhyw drydydd parti a enwir neu y cyfeirir ato yn y wefan yn gyfan gwbl ar eich risg a'ch cyfrifoldeb chi yn unig.

Nid oes dim ar y wefan hon sydd â'r bwriad o fod yn gynnig i fynd i berthynas gontractiol, ac ni ddylid dehongli dim ar y wefan fel cynnig o'r fath.

Dolenni o'r safle hwn

Mae dolenni a fframiau sy'n cysylltu'r safle hwn â safleoedd eraill er cyfleustra yn unig ac nid ydynt yn unrhyw fath o gefnogaeth neu gymeradwyaeth gan UKCEH neu ein rhiant-gyrff ar gyfer y safleoedd eraill hynny, eu cynnwys neu'r bobl sy'n eu rhedeg. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio yr holl adeg ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau y mae dolenni ar eu cyfer, na'u cynnwys.

Cyfrifoldeb defnyddiwr y Rhyngrwyd yw gwneud eu penderfyniadau eu hunain am gywirdeb, cyfredolrwydd, a dibynadwyedd gwybodaeth a geir mewn safleoedd y mae dolenni iddynt ar y wefan hon.

Diogelu rhag feirysau

Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob un cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrthfeirysau ar yr holl ddeunydd a lwythir i lawr o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, tarfiad neu ddifrod i'ch data neu i'ch system gyfrifiadur a allai ddigwydd pan fyddwch yn defnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Cwcis

Rydym am wneud y wefan hon yn hawdd ei defnyddio, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Mae hyn yn cynnwys rhoi ychydig bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol mewn ffeiliau bach o'r enw cwcis. Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i gynnal eich sesiwn bori ac i wella nodweddion y safle, ac i fonitro'r defnydd o'r safle gyda Google Analytics. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i gynnal perfformiad y wefan ac i gefnogi cyllid. Darllenwch fwy am sut mae Google yn rheoli'r data y mae'n ei gasglu. Mae gan eich porwr gwe osodiadau sy'n caniatáu i chi reoli'r ffeiliau bach hyn eich hunain drwy dynnu neu rwystro cwcis. Dysgwch fwy amdanynt drwy'r cyngor ar wefan AboutCookies.

Ymwadiad

Mae'r holl wybodaeth y mae UKCEH yn ei darparu ar ei gwefan ar gael er mwyn rhoi mynediad uniongyrchol er cyfleustra i'r rhai sydd â diddordeb. Er bod UKCEH o'r farn bod y wybodaeth yn ddibynadwy, mae'n bosib bod gwallau, boed hynny o achos pobl neu'n wallau mecanyddol. Felly, nid yw UKCEH yn gwarantu bod y wybodaeth yn gywir, yn gyflawn, yn amserol nac yn y drefn gywir. Ni fydd UKCEH, nac unrhyw un o ffynonellau'r wybodaeth yn gyfrifol am unrhyw wall neu hepgoriad, nac am y defnydd o'r wybodaeth hon na'r canlyniadau a geir yn sgil defnyddio'r wybodaeth.

Newidiadau i'r telerau hyn

Efallai y caiff y telerau hyn eu diweddaru o bryd i'w gilydd (8 Mawrth 2021 yw dyddiad y fersiwn cyfredol). Bydd y fersiwn diweddaraf bob amser ar gael yn fitcount.ceh.ac.uk/terms. Os gwneir newidiadau i'r telerau hyn yn y dyfodol, caiff hysbysiad amlwg ei roi ar y wefan.